
Amdanom
Canolfan & Senedd-dŷ Owain Glyndŵr
Mae Canolfan Owain Glyndŵr yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau cymunedol, hanesyddol a ddiwylliannol. Leolwyd ar Heol Maengwyn, brif stryd Machynlleth. Mae'r Ganolfan yn cael ei rhedeg gan bwyllgor brwdfrydig o wirfoddolwyr, os hoffech chi chwarae rhan cysylltwch â ni.

YMWELD
Dewch draw i Heol Maengwyn, Machynlleth i weld ni. Mae’r Ganolfan yn agored i bawb ac yn ganolbwynt i’r gymuned yn ogystal â chyrchfan ar gyfer ymwelwyr.
Y Senedd-dy
Adeilad Hanesyddol
Mae Senedd-dÅ· Owain Glyndŵr yn un o adeiladau hanesyddol pwysicaf Cymru. Gallwch ymweld â'r atyniad hynod ddiddorol yma rhwng 10.30y.b a 3.30y.p ar Ddydd Mercher, Gwener & Sadwrn, neu ar gyfer grwpiau mawr, ar unrhyw adeg trwy drefniant blaenorol ar e-bost: ​helo@canolfanowainglyndwr.org
​
Rydym hefyd yn croesawu ymweliadau ysgol yn ystod y tymor ysgol.
Mae mynediad am ddim, heblaw bod angen gwneud trefniadau arbennig ar gyfer grwpiau o flaen llaw, ond gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniad tuag at elusen Canolfan Owain Glyndŵr Cyf. er mwyn cynnal a chadw'r adeilad.
MWY AM GWEITHGAREDDAU'R SENEDD-DŶ
​

Caffi Alys
Bwyd, Coffi & Chacennau
Yng Nghaffi Alys allwch fwynhau ystod eang o fyrbrydau, prif brydau a chacennau cartref. Mae yna opsiynau fegan a llysieuol blasus bob amser ar y fwydlen a defnyddiwyd cynnyrch lleol pryd bynnag y bo modd. Mwynhewch Goffi Teifi a chroeso cynnes ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 9.30 y.b tan 4.30 y.p.


Priodu
Hoffech chi cynnal eich diwrnod arbennig ar safle Sennedd cyntaf Cymru? Cliciwch YMA am fwy o manylion.

Cynhelir sawl digwyddiad yn ystod y flwyddyn ewch i'n tudalen DIGWYDDIADAU am y wybodaeth ddiweddaraf.
CYSYLLTWCH
Canolfan Owain Glyndŵr, Heol Maengwyn, Machynlleth, Powys, SY20 8EE
