Hanes Y Ganolfan
Canolfan Owain Glyndwr a'i arwyddocâd diwylliannol
Saif Canolfan Owain Glyndŵr ar safle’r senedd enwog a gynhaliwyd yn 1404 lle y cafodd Owain ei goroni’n Dywysog Cymru. Mae’n enghraifft brin o dŷ tref o’r Oesoedd Canol diweddar yng Nghymru. Mae wedi ei gofrestru ar Raddfa 1 o adeiladau a restrwyd, oherwydd ei bwysigrwydd hanesyddol. Rhoddwyd yr adeilad i dref Machynlleth gan yr Arglwydd Davies o Landinam ym mis Chwefror 1912.
1460 - 1912
Mae ymchwiliadau archeolegol diweddar yn dangos bod y Senedd-dŷ yn dyddio o’r Oesoedd Canol diweddar. Ychydig a gwyddon am yr adeilad dros y canrifoedd nesaf. Ond erbyn diwedd y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg roedd ei gyflwr yn dirywio. Gwaredwr yr adeilad oedd yr AS lleol, David Davies. Roedd ei dad-cu yn cael ei adnabod fel “Davies the Ocean” oherwydd roedd wedi gwneud ei ffortiwn yn niwydiannau glo a llongau De Cymru. Treuliodd ei ŵyr ran o’r ffortiwn hon ar adfer y Senedd-dŷ ac adeiladu adeilad deniadol arall drws nesaf, yr enw ar yr adeilad hwn oedd 'Yr Athrofa'. Prynodd David Davies yr adeilad ym 1906 ac agorwyd y ddau adeilad ym 1912. Roedd llyfrgell y dref wedi'i lleoli yn y Senedd-dŷ, ond yn ddiweddarach symudodd i safle gyferbyn.
1914 ymlaen
Defnyddiwyd yr adeiladau’n helaeth gan y gymuned leol yn y degawdau wedi’r Rhyfel Mawr. Cyn dyfodiad ceir, roedd ffermwyr yn clymu eu ceffylau yn y cefn ar ddiwrnod marchnad. Mae cynghorau lleol wedi defnyddio ‘Yr Athrofa’ dros y blynyddoedd. Yn 1976 daeth Pwyllgor Rheoli newydd i’r adwy pan oedd perygl y byddai’n rhaid gwerthu’r adeilad.
Yn 2011 cafodd yr adeiladau eu hadfer a'u hailddatblygu i gartrefu arddangosfa Owain Glyndŵr a chynnal Gŵyl Glyndŵr yn flynyddol. Yn 2017 sicrhaodd y pwyllgor grantiau i ddatblygu’r adeiladau ymhellach.
Bwriad y pwyllgor presenol yw i parhau gyda'r waith pwysig o cynnal a ddatblygu'r Ganolfan fel hwb gymunedol, hanesyddol a threftdadaeth sydd yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Arwyddocâd diwylliannol
Roedd bwriadau David Davies wrth adnewyddu’r adeilad yn glir. Ei fwriad oedd creu cofadail cenedlaethol i Glyndŵr, yn ogystal â chynnig manteision i drigolion lleol megis ystafelloedd pwyllgora a lawnt bowlio yn y cefn. Tanlinellir ymrwymiad David Davies i goffau Glyndŵr yn y murlun pwysig sydd yn y Senedd-dŷ. Fel mae Jan Morris yn nodi yn ei llyfr yn 1993, oherwydd brwdfrydedd yr Aelod Seneddol penderfynodd yr arlunydd, Murray Urquhart, roi wyneb David Davies ar gorff Glyndŵr wrth lunio ei furlun o frwydr Hyddgen. Mae’r murlun yn y Senedd-dŷ hyd heddiw. Ym marn yr hanesydd celf Peter Lord y murlun hwn yw’r unig enghraifft o furlun mawr yng Nghymru cyn 1914.