top of page
Siop Lyfrau'r Senedd_dy

Siop Lyfrau'r Senedd-dŷ

Ym mis Rhagfyr 2021 agorodd Siop Lyfrau’r Senedd-dŷ, dyma fenter newydd gan Geoff Young & Diane Bailey sydd hefyd yn rhedeg Siop Lyfrau Penrallt a Ffotogaleri y Gofeb ym Machynlleth.

Yn y siop gallwch bori'n hamddenol trwy amrywiaeth eang o lyfrau barddoniaeth a chelf, antholegau, nofelau a llyfrau ffeithiol yn ymwneud ag iaith a diwylliant Cymru yn y Gymraeg a'r Saesneg. Yn ogystal â bod yn siop lyfrau, Siop Lyfrau'r Senedd-dŷ yw cartref swyddogol newydd 'O'r Pedwar Gwynt'.

.

​​Oriau agor: Ddydd Mercher, Gwener & Sadwrn 10.30y.b - 3.30y.p
 

Teithiau tywys Arfon Hughes

Teithiau Tywys

Teithiau Tywys Machynlleth

Mae Machynlleth yn dref hynod ddiddorol ac yn llawn hanes, pensaernïaeth wych, ac wrth gwrs y roedd unwaith yn brifddinas Cymru. Mae'r daith dywys yn cynnwys - Hanes Owain Glyndŵr, adeilad treftadaeth y Senedd-dŷ  a thref Machynlleth. Mae rhan fwyaf o'r daith ar y gwastad ond fydd angen esgidiau a dillad addas ar gyfer pob tywydd. Hyd y daith yw 1:30 awr yn dechrau o flaen Senedd-dŷ Owain Glyndŵr am 9:30yb. Ar gael ar Ddydd Mercher neu ar adegau eraill trwy archebu yn unig. Gostyngiadau i bartïon. Ffoniwch Arfon ar 07426914442.

 

Ewch i’n tudalen Facebook am fwy o wybodaeth

 

https://www.facebook.com/TeithiauCerddedDYFIWalkingTours/

Mwy am weithgareddau'r Senedd-dy: About
People

Senedd Ieuenctid

Ymgyrch newydd yw’r Senedd Ieuenctid. Sefydlwyd er mwyn ceisio cefnogi’r diddordeb mae’r genhedlaeth nesaf yn dangos yn ddyfodol Y Ganolfan a’r Senedd-dŷ, dref Machynlleth a hanes Cymru.

Mwy am weithgareddau'r Senedd-dy: Welcome
Mwy am weithgareddau'r Senedd-dy: Pro Gallery
bottom of page