top of page

Cliciwch isod i wrando ar yr hanes.

Click below to listen to the story.

YG 8 Cymraeg
YG 8 English

Neu darllenwch yr hanes isod.

Or read the story below (scroll down).

Ym 1984 prynwyd hen gapel Y Tabernacl gan Andrew Lambert. Roedd am droi’r capel yn rhywle lle gallai pobl ddod i chwarae cerddoriaeth, cynnal cyngherddau a pherfformiadau o bob math. Ar ôl llawer o waith adeiladu, ail-agorwyd Y Tabernacl fel canolfan ar gyfer y celfyddydau perfformio ar yr 11eg o Hydref, 1986.

 

Ar yr un pryd, crëwyd Ymddiriedolaeth Tabernacl Machynlleth i wneud gwaith pwysig yn y fro. Hyd heddiw, mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio er mwyn helpu pobl i ddysgu am bethau fel cerddoriaeth, paentio a cherflunio. Maen nhw hefyd yn hyrwyddo iaith a diwylliant Cymraeg ac yn gofalu am rai adeiladau pwysig iawn yn y dref, gan gynnwys Y Tabernacl ei hun, y Tanerdy drws nesaf a'r Tŷ Brenhinol yr ochr draw i'r groesfan sebra. Mae’r Tŷ Brenhinol yn hen adeilad a godwyd tua 450 o flynyddoedd yn ôl, ac yn ôl hen chwedl mae yna dwnnel yn arwain o'r Tŷ Brenhinol i gaer Rufeinig hynafol ar draws y dyffryn. Credir fod Owain Glyndŵr wedi defnyddio'r twnnel yn ystod ei wrthryfel!

 

Bob mis Awst, mae’r Tabernacl yn cynnal gŵyl gerddoriaeth fawr ac yn gwahodd cerddorion enwog o bob cwr o'r byd i ddod i chwarae. Cynhelir cyngherddau cerddoriaeth glasurol yn Y Tabernacl, yn ogystal â chyngherddau llai o amgylch y dref. Mae'r cyngherddau yn Y Tabernacl yn swnio'n anhygoel gan mai hen gapel ydi’r adeilad, oedd wedi ei ddylunio ar gyfer y cannoedd o bobl fyddai’n dod i ganu yno bob dydd Sul, rhan bwysig o’r gwasanaeth. Mae to uchel y capel a siâp yr ystafell yn ei wneud yn lle perffaith felly i berfformio cerddoriaeth heddiw.

In 1984, The Tabernacle chapel, was bought by Andrew Lambert. He wanted to turn the disused chapel into a place where people could come and play music, have concerts and put on all kinds of performances. After lots of building work, The Tabernacle re-opened as a centre for the performing arts on the 11th of October, 1986.

 

At the same time, The Machynlleth Tabernacle Trust was created to do important work in the local area. To this day, the trust works to help people learn about and enjoy things like music, painting and sculpture. They also promote Welsh language and culture and look after some very important buildings in the town, not only The Tabernacl itself, but also The Tannery next door and Royal House on the other side of the zebra crossing, a very old building that was built about 450 years ago. According to legend, there’s an old tunnel from Royal House to an ancient Roman fort across the valley. Owain Glyndŵr was said to have used this tunnel during his rebellion against the English.

 

Every August, The Tabernacl puts on a big music festival and invites famous musicians from across the world to come and play. Classical music concerts are held in The Tabernacl, as well as smaller concerts around the town. The building is ideal for music performance, as it was designed to enhance the choral singing of chapel-goers every Sunday.

WG_Funded_land_mono png.png
  • Facebook

©2021 Liz Fenwick, GLASBRINT

bottom of page