Cliciwch isod i wrando ar yr hanes.
Click below to listen to the story.
Neu darllenwch yr hanes isod.
Or read the story below (scroll down).
Codwyd yr heneb hon gan Gymdeithas Owain Glyndŵr ar Fedi 16eg, yn y flwyddyn 2000, i ddathlu chwe chanmlwyddiant y diwrnod y coronwyd Owain yn Dywysog Cymru. Ei ymgyrch oedd y tro olaf i'r Cymry geisio gwrthryfela yn erbyn Lloegr.
Am y rheswm yma mae Owain Glyndŵr yn dal i fod yn symbol o annibyniaeth i Gymru. Mae ei faner i’w weld yn aml mewn gorymdeithiau dros annibyniaeth, sy'n denu tynfeydd mawr, a chyda grwpiau ymgyrchu fel YES! Cymru a phleidiau gwleidyddol fel Plaid Cymru yn cael mwy a mwy o bobl i siarad am annibyniaeth.
Mae'n ymddangos bod llawer o bobl yn hoffi'r syniad o annibyniaeth, ond beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd? Ydi annibyniaeth yn golygu mwy o bwerau i'r Senedd yng Nghaerdydd, gyda Chymru yn aros yn rhan o'r Deyrnas Unedig? Neu’n golygu annibyniaeth lawn, gyda Chymru'n gadael y Deyrnas Unedig yn gyfan gwbl?
Mae rhai pobl eisiau annibyniaeth i amddiffyn iaith a diwylliant Cymraeg. Eraill oherwydd nad ydyn nhw'n credu bod y llywodraeth yn Llundain yn gwneud digon i helpu pobl yng Nghymru. Mae un peth yn sicr, mae annibyniaeth Cymru yn hen stori sy'n dal i gael ei hadrodd.
This monument was raised by the Owain Glyndŵr Society on September 16th, in the year 2000, to mark the six-hundredth anniversary of the day Owain was proclaimed Prince of Wales. His campaign was the last time the Welsh tried to rebel against the English nobility.
It’s for this reason Owain Glyndŵr is still a symbol for Welsh independence. His flag is often waved at marches for independence, which seems as popular as ever, with campaign groups like YES! Cymru and political parties like Plaid Cymru getting more people to talk about it.
Lots of people like the idea of independence, but what does it actually mean? Does it mean more devolved powers for The Senedd in Cardiff Bay, with Wales staying a part of the United Kingdom? Or does it mean full independence, with Wales leaving the United Kingdom altogether?
Some people want independence to protect Welsh language and culture. Others because they don’t think the UK Parliament in London does enough to help people in Wales. Yet others believe Wales would be too weak to survive as an independent country. One thing is for certain, Welsh independence is a very old story that is still being told.