Cliciwch isod i wrando ar yr hanes.
Click below to listen to the story.
(Os hoffech chi ddefnyddio'r senedd ar-lein yn Gymraeg, sicrhewch mai Cymraeg ydi iaith eich porwr.)
Darllenwch yr hanes isod.
Read the story below (scroll down).
Y fan lle rwyt ti'n sefyll nawr ydi lle cynhaliodd Owain Glyndŵr ei senedd ym 1404. Roedd yr ystafell hon yn llawn o bobl bwysig, nid o Gymru yn unig, ond o'r Alban a Ffrainc hefyd. Roedden nhw i gyd wedi dod i weld Owain yn cael ei goroni’n Dywysog Cymru. Ond nid senedd i bobl gyffredin oedd hon, ond i'r uchelwyr yn unig.
Dyna'r tro olaf i senedd gael ei chynnal yng Nghymru am bron i 600 mlynedd. Ni welodd Cymru senedd arall tan 1997 gyda sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd, sy’n cael ei nabod heddiw fel Y Senedd. Fe’i hadeiladwyd yn yr hen Tiger Bay, a oedd ar un adeg yn un o borthladdoedd prysuraf Cymru.
Ond yn wahanol i senedd-dy Owain Glyndŵr, gall unrhyw un gael eu hethol i fod yn aelod o’r Senedd, waeth pwy ydyn nhw. Nid yw’r Senedd yn hollol annibynnol chwaith; mae ganddi rhai pwerau dros bethau fel addysg, iechyd a thrafnidiaeth, ond nid y fyddin a pholisi tramor. Mae’r Senedd yn penderfynu sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario ar y pethau hyn, ond nid yw'n penderfynu faint o arian y mae'n ei chael. Mae hynny'n cael ei benderfynu gan lywodraeth y Deyrnas Unedig yn Llundain.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru o'r farn bod y Senedd yn syniad da a hoffent ei gweld yn cael mwy o bwerau. Dylid cymryd pob cyfle i gryfhau ein democratiaeth. Mae rhai llywodraethau yn cynnig senedd i’r bobl, lle gall y cyhoedd drafod a gwneud penderfyniadau yn uniongyrchol am faterion pwysig. Heddiw, gall technoleg helpu grwpiau mawr o bobl wneud penderfyniadau gwell, ac mae llawer o brosiectau sy’n datblygu technoleg i wella democratiaeth.
Cei weld y math yma o dechnoleg ar waith drwy glicio ar y ddolen isod a chymryd rhan yn ein senedd ar-lein ni ein hunain.
Os hoffech chi ddefnyddio'r senedd ar-lein yn Gymraeg, sicrhewch mai Cymraeg ydi iaith eich porwr.
Where you are standing right now is where Owain Glyndŵr held his parliament in 1404. This room was full of many important people not only from Wales, but also from Scotland and France. They had all come to see Owain being crowned Prince of Wales. But this wasn’t a democratic parliament for everyone, like we know today. It was a parliament only for the nobility – those with wealth and status from birth.
That was the last time a parliament was held in Wales for almost six hundred years. It wasn’t until 1997 that Wales was to see another, this time in Cardiff Bay – the National Assembly, now called The Senedd. Unlike Owain Glyndŵr’s parliament, The Senedd is a place where anybody can be elected to represent the people of Wales regardless of who they are, although it is not totally independent. It’s what is known as a devolved parliament, which has responsibility for things like education, health and transport, and deciding how public money is spent in Wales. However, the UK Parliament in Westminster, London, decides how much money The Senedd receives each year, and controls other aspects of life in Wales.
Most people in Wales think The Senedd is a good idea and would like to see it get more devolved powers – powers taken from a central parliament and given to individual countries or regions. Some countries, for example Belgium, Canada and Ireland, have begun to organise citizens’ assemblies, as a way to progress democracy further; where the public can discuss and make decisions directly about important matters. Today, technology can help large groups of people make decisions together, and there have been many projects that have used technology to make democracy stronger.
You can see this type of technology in action by clicking on the link below and taking part in our very own online Citizens’ Assembly.