top of page

Cliciwch isod i wrando ar yr hanes.

Click below to listen to the story.

YG 3 Cymraeg
YG 3 English

Neu darllenwch yr hanes isod.

Or read the story below (scroll down).

Dydd Mercher yw diwrnod y farchnad ym Machynlleth, fel y bu ers canrifoedd lawer. Cafodd arglwydd enwog o’r enw Owain ap Gruffydd ganiatâd i gynnal marchnad ym Machynlleth nôl yn y 13eg ganrif, ond mae’n eithaf tebyg ei bod yn dref farchnad ymhell, bell cyn hynny. Mae llawer o hen ffyrdd yn cwrdd ym Machynlleth, gan ei gwneud yn lle naturiol i bobl ddod at ei gilydd i brynu a gwerthu.

 

Fel gweddill Cymru, mae gan Machynlleth draddodiad hir iawn o ffermio, ac mae’n debyg mai gwlân yw diwydiant hynaf yr ardal. Daeth rhywun â defaid i Brydain bum mil o flynyddoedd yn ôl, ac maen nhw wedi cael eu ffermio am eu cig a’u gwlân byth ers hynny. Ar un adeg, gwerthai Cymru fwy o wlân na dim arall, ac mae cig oen Cymru yn dal i fod yn enwog ledled y byd.

 

Hyd at y 14eg ganrif, roedd y tir yn cael ei weithio gan daeogion, sef llafurwyr caeth oedd ag ychydig iawn o dir eu hunain, ac roedd yn rhaid iddyn nhw roi rhan fawr o’u cynnyrch fel rhent i'w harglwyddi. Tan yn eithaf diweddar, nid oedd y mwyafrif o ffermwyr yn berchen ar y tir roedden nhw’n ei weithio, ond yn y ganrif ddiwethaf llwyddodd llawer o ffermwyr Cymru i brynu eu ffermydd eu hunain.

 

Erbyn heddiw, mae ffermio yn wahanol iawn, gyda llai a llai o bobl yn gweithio ar y tir. Mae'r ffordd y mae ffermwyr yn cael eu talu am yr hyn maen nhw'n ei gynhyrchu hefyd yn newid, ac mae argyfwng yr hinsawdd yn golygu bydd yn rhaid i ffermwyr newid y ffordd maen nhw’n cynhyrchu gwahanol fathau o fwyd.

Wednesday is market day in Machynlleth, as it has been since a Royal Charter was granted to the town in 1291 – allowing weekly markets and two fairs a year. However, it’s likely that it was a market town long before that. Many old roads meet in Machynlleth, making it a natural place for people to meet and trade.

 

Like the rest of Wales, Machynlleth has a long tradition of farming, with wool probably being the oldest industry in the area. Sheep were first brought to the British Isles five thousand years ago, and they have been farmed for their meat and wool ever since. At one time, Wales sold more wool than anything else, and Welsh lamb is still famous around the world.

 

Up until the 14th century, the land was worked by bonded labourers who had little land of their own, and had to give over a large part of what they produced as rent to their lords and masters. Now, more Welsh farmers are able to own the farms they work and live on, but farming is very different to how it was, with fewer people working on the land. The way farmers are paid for what they produce is also changing, and the climate crisis means that in the future, farmers may have to adapt by producing different types of food.

WG_Funded_land_mono png.png
bottom of page