top of page

Cliciwch isod i wrando ar yr hanes.

Click below to listen to the story.

YG 10 Cymraeg
YG 10 English

Neu darllenwch yr hanes isod.

Or read the story below (scroll down).

Roedd Gwynn ap Gwilym yn fardd a golygydd o fri a gafodd ei fagu ym Machynlleth ac oedd yn byw i fyny'r dyffryn ym Mallwyd. Yn ogystal ag ysgrifennu nofelau a barddoniaeth fodern, roedd hefyd yn feistr ar Gerdd dafod, sef math o farddoniaeth draddodiadol sy'n cymryd blynyddoedd i’w meistroli.

 

Mae Cerdd Dafod yn gyfundrefn gymhleth o effeithiau sain a rhythmau sy’n rhoi naws gerddorol i farddoniaeth. Mae’n draddodiad hynafol iawn gyda’i wreiddiau yn niwylliant llwythau Celtaidd yr Oes Haearn. Ym 1986, enillodd Gwynn ap Gwilym y wobr fwyaf am farddoniaeth yng Nghymru, sef cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, am gerdd hir a gyfansoddodd yn yr arddull hon. Dyma un enghraifft sydyn o’i gerdd:

 

Awen a dysg a hen dân — Hiraethog

          A ymrithiai’n ddiddan

     Yn ei gof, ond mud y gân;

     Heddiw’i gof oedd ei gyfan.

 

Yma, mae’n sôn am ysbrydoliaeth a dysg ei dad, a sut roedd y rhain wedi tyfu’n atgofion iddo yn ei henaint.

 

Yn ystod ei fywyd, bu’n Rheithor Plwyf i sawl eglwys yn Nyffryn Dyfi ac roedd yn adnabyddus yn yr ardal. Roedd yn arbenigwr mewn gwahanol ieithoedd, gan gynnwys Hen Wyddeleg a Hebraeg, a darlithiodd yn Iwerddon a Chymru. Roedd hefyd yn un o olygyddion Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth yr 20fed ganrif. Bu farw yn 2016.

Gwynn ap Gwilym was a respected poet and editor who grew up in Machynlleth and lived just up the valley in Mallwyd. As well as writing novels and modern poetry, he also followed the ancient tradition of the Welsh bards, and composed classical Welsh poetry which requires great skill and practice.

 

This very old type of poetry is called Cerdd Dafod, or ‘The Craft of the Tongue’, and follows a complex system of sound effects and rhythms that give the poetry a very musical sound. In 1986, Gwynn ap Gwilym won the highest prize in Wales, the chair of the National Eisteddfod, for a long poem composed in the classical style. This is one very short example of how it sounds in Welsh:

 

Awen a dysg a hen dân — Hiraethog

         A ymrithiai’n ddiddan

     Yn ei gof, ond mud y gân;

     Heddiw’i gof oedd ei gyfan.

 

Here, Gwynn is talking about his own father’s inspiration and learning, and how these had become memories for his father in his old age.

 

The classical tradition of Welsh poetry is very old, and has its roots in the culture of the Celtic tribes of Iron Age Britain. Gwynn ap Gwilym was a master of this ancient craft, something very few Welsh poets achieve. During his life, he was a parish rector for several churches in the Dyfi Valley and was well known in the area. He was an expert in different languages, including Old Irish and Hebrew, and lectured in both Ireland and Wales. He was also one of the editors of the Barddas compilation of 20th century Welsh poetry. He died in 2016.

WG_Funded_land_mono png.png
bottom of page