top of page

Cliciwch isod i wrando ar yr hanes.

Click below to listen to the story.

YG 1 Cymraeg
YG 1 English

Neu darllenwch yr hanes isod.

Or read the story below (scroll down).

Pan frwydrodd Owain Glyndŵr yn ôl yn erbyn Lloegr, roedd llawer o Gymry yn ei gefnogi. O'r gweithiwr tir gwerinol i'r uchelwr cyfoethocaf, roedd pawb wedi dioddef o dan orthrwm Lloegr, ac roedd pawb eisiau cael eu gwlad a'u hawliau yn ôl.

 

Roedd rhai beirdd yn enwedig yn annog pobl i ymladd dros Owain Glyndŵr. Roedd hen broffwydoliaeth yng Nghymru y byddai arwr mawr o’r enw ‘Y Mab Darogan’ yn achub y Cymry un diwrnod, ac roedd y beirdd yn honni eu bod yn gwybod yn union pryd y byddai’r arwr mawr yma’n codi.

 

Bu nifer o’r beirdd hyn yn cyfansoddi cerddi yn dweud wrth bawb mai Owain Glyndŵr oedd y Mab Darogan, a phe bai’r Cymry yn ei ddilyn, byddai’n sicr o achub y genedl gyfan. Ymunodd llawer â gwrthryfel Owain Glyndŵr, gan gredu y byddai’n curo brenin Lloegr.

 

Ond er i wrthryfel Owain fethu, fe oroesodd y broffwydoliaeth am y Mab Darogan. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, cyhoeddodd beirdd Cymru eu bod wedi dod o hyd i Fab Darogan newydd, sef uchelwr ifanc o'r enw Harri Tudur.

 

Aeth y beirdd ati unwaith eto i gyfansoddi cerddi am y Mab Darogan, gyda Harri Tudur yn serennu’r tro hwn, a chan gredu mai dyma ei harwr newydd, penderfynodd llawer o Gymry ymladd dros yr uchelwr ifanc. Gorchfygodd Harri Tudur frenin Lloegr mewn brwydr, a gwireddwyd yr hen broffwydoliaeth o'r diwedd. Fodd bynnag, yn anffodus, ychydig iawn wnaeth Harri Tudur i helpu'r Cymry ar ôl iddo gipio'r goron yn 1485.

An old Welsh legend states that one day a great hero called Y Mab Darogan, the Son of Prophecy, would save the Welsh and reclaim Britain for them. At the beginning of the 15th century, Welsh bards used this legend to convince the people of Wales that Owain Glyndŵr was Y Mab Darogan through the poems they wrote – giving him a mythical status.

 

Many people joined Owain Glyndŵr’s rebellion, believing that he was destined to finally defeat the English king, Henry IV. From the lowest land worker to the wealthiest noble, everyone had suffered in some way or another, and everyone wanted their country and their rights back.

 

Even though Owain’s rebellion eventually failed, the prophesy about Y Mab Darogan carried on. Some years later, the Welsh bards found themselves another Son of Prophecy, a young nobleman called Henry Tudor.

 

After the bards once again wrote poems telling everyone that Henry Tudor was the new Mab Darogan, many Welsh people decided to fight for him, thus helping fulfil the old prophecy when Henry Tudor defeated Richard III, the king of England. Unfortunately, Henry Tudor did little to help the Welsh after he took the crown in 1485.

WG_Funded_land_mono png.png
bottom of page